Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 6 Hydref 2021
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru): Beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i liniaru effeithiau penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu y cynnydd mewn credyd cynhwysol o heddiw ymlaen?
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu dadl ar eitemau 5–8
(5 munud)
NDM7802 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(ii) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NDM7798, NDM7799, NDM7800 ac NDM7801 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 6 Hydref 2021.
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 5–8 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân
(5 munud)
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.1 i sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
NDM7798 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i graffu ar waith y Prif Weinidog o safbwynt unrhyw fater sy'n berthnasol i'r gwaith o arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2T ac 17.3 i ethol aelodau a Chadeirydd i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
NDM7799 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
a) John Griffiths (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru), Jack Sargeant (Llafur Cymru), Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Russell George (Ceidwadwyr Cymreig) a Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog; a
b) David Rees (Dirprwy Lywydd) yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd
NDM7781 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:
1. Yn sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.
2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw:
a) ystyried y casgliadau a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn y Bumed Senedd fel y nodir yn ei adroddiad Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf a osodwyd gerbron y Senedd ar 10 Medi 2020;
b) erbyn 31 Mai 2022, gwneud argymhellion ar gyfer cyfarwyddiadau polisi ar Fil Llywodraeth Cymru i Ddiwygio'r Senedd.
3. Yn cytuno y caiff y Pwyllgor ei ddiddymu yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol.
8 Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.2T, 17.3, 33.6 a 33.8 i ethol aelodau a Chadeirydd i'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, i atal y Rheolau Sefydlog dros dro mewn cysylltiad â'r pwyllgor hwnnw, a chytuno ar drefniadau pleidleisio yn y pwyllgor
NDM7800 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
a) Jayne Bryant (Llafur Cymru), Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig), Sian Gwenllian (Plaid Cymru), a Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelodau o'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd;
b) Elin Jones (Llywydd) fel aelod o'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd;
c) Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.
3. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6 a 33.8, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.37 i 17.39 yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.
4. Yn penderfynu, lle mae angen pleidlais i waredu busnes, y bydd pleidleisio yn y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd yn gweithredu fel a ganlyn:
a) dim ond wrth arfer pleidlais fwrw y caiff y cadeirydd bleidleisio;
b) ni chaiff y Llywydd bleidleisio;
c) caiff pob aelod arall o'r Pwyllgor bleidleisio ac, os ydynt yn perthyn i grŵp gwleidyddol, mae pob aelod yn cael un bleidlais ar gyfer pob aelod o'r grŵp gwleidyddol y mae’n perthyn iddo (gan gynnwys ei hun a'r Llywydd a'r Dirprwy os yw’n aelodau o'i grŵp gwleidyddol);
d) rhaid pasio penderfyniad i gytuno ar argymhellion i'r Senedd ar bleidlais lle mae'r aelodau sy'n pleidleisio o'i blaid yn cario o leiaf 40 pleidlais.
9 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd Meddwl
(60 munud)
NDM7793 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi mai dydd Sul 10 Hydref yw diwrnod iechyd meddwl y byd.
2. Yn cydnabod effaith COVID-19 ar gymorth iechyd meddwl ac anghydraddoldebau iechyd meddwl.
3. Yn gresynu at y ffaith bod nifer y bobl ifanc sy'n dod i'r ysbyty gyda phroblemau hunan-niweidio wedi codi 39 y cant ers 2007.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys yn ei strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd newydd y flwyddyn nesaf:
a) camau i weithredu argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pumed Senedd, Cadernid Meddwl a Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach;
b) adroddiadau blynyddol a phennu targedau ar gyfer amseroedd aros i gael triniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys lleihau ôl-groniadau;
c) cyflwyno canolfannau argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol;
d) cynllun gweithlu iechyd meddwl clir.
5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf iechyd meddwl newydd.
Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r ymrwymiad i adolygu’r dystiolaeth, y data a’r ddarpariaeth gwasanaethau bresennol ar gyfer hunan-niweidio i bobl o bob oed yng Nghymru.
Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i’r canlynol:
a) gweithredu argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd, Cadernid Meddwl a Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach;
b) cryfhau a chyhoeddi data amseroedd aros iechyd meddwl a gwella perfformiad ledled Cymru;
c) cyflwyno cymorth argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol;
d) cynllun gweithlu iechyd meddwl clir.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y diwygiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl y DU yn addas ar gyfer Cymru ac yn gyson â deddfwriaeth berthnasol bresennol yng Nghymru.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
'cyflwyno rhwydwaith o ganolfannau iechyd meddwl a lles ieuenctid ataliol'.
10 Dadl Plaid Cymru: Tâl gweithwyr gofal iechyd
(30 munud)
NDM7791Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi ymdrechion Unite, Unsain a'r Coleg Nyrsio Brenhinol i sicrhau cyflog teg i bob gweithiwr gofal iechyd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn ei thrafodaethau presennol â'r undebau gofal iechyd, i ymrwymo i godiad cyflog mewn termau real uwchlaw'r hyn a gynigiwyd gan gorff adolygu cyflogau'r GIG.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod ymroddiad ac aberth holl staff y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
2. Yn croesawu'r lefelau hanesyddol o gyllid gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i bob rhanbarth a gwlad yn y DU, gan gynnwys Cymru, mewn cyllidebau olynol ac yn y frwydr yn erbyn COVID-19.
3. Yn nodi argymhellion corff adolygu cyflogau annibynnol y GIG yng Nghymru a phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ddyfarnu codiad cyflog o 3 y cant i staff y GIG.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar frys ag amodau gwaith fel cymorth iechyd meddwl, cadw staff, uwchsgilio a llenwi bylchau staffio o fewn y GIG, er mwyn sicrhau bod gennym weithlu sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu ag undebau llafur GIG Cymru gan gynnwys ynghylch cyflogau'r GIG.
11 Dadl Plaid Cymru - Pwysau Gaeaf y GIG
(30 munud)
NDM7792 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gaeaf i fynd i'r afael â'r pwysau y mae'r GIG yn ei wynebu yn ystod misoedd y gaeaf.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun y gaeaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn yr wythnos sy'n dechrau ar 18 Hydref 2021.
12 Cyfnod pleidleisio
13 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7790 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Addas ar gyfer yr 21ain Ganrif: sut y gall Cymru gwella'r gefnogaeth y mae'n ei rhoi i helpu pobl i oresgyn dibyniaeth ar sylweddau.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 12 Hydref 2021